Croeso











Croeso!

Eglwys groesawus, gynnes ac anffurfiol yw Bethlehem, Gwaelod-y-garth.

Mae’r anffurfioldeb yn ymestyn i’n cyhoeddiadau yn y Western Mail ar fore Sadwrn ac fe deimlwch chithau’r croeso a’r gwres pan ymwelwch â ni.

Un o nodau’r wefan hon yw rhoi cipolwg ichi ar Fethlehem.

Os carech gael manylion pellach am yr eglwys, neu os hoffech i rywun o’r eglwys alw arnoch, mae pob croeso ichi gysylltu â ni drwy glicio yma.