Gweithgorau Bethlehem
Hwylusir gwaith yr eglwys gan dri gweithgor:
Y bwriad wrth sefydlu’r pwyllgorau hyn oedd rhoi cyfle i bob aelod gael llais yn yr hyn sy’n digwydd oddi mewn i’r eglwys a thu hwnt. A hynny’n ychwanegol at yr hyn sy’n cael ei wneud gan y swyddogion a’r diaconiaid.
Y gobaith, felly, yw sicrhau ffresni cyson i’n syniadau ac ychwanegu’n helaeth at ein tystiolaeth. Mae’r gweithgorau hefyd yn rhoi cefnogaeth ymarferol i’r gweinidog wrth ei waith yn arwain yr eglwys.
Rydym eisoes yn weithgar ac ymroddgar ond gyda’n gilydd gallem gyflawni cymaint yn fwy. Anogwn bob aelod i ymuno ag un neu fwy o’r gweithgorau er mwyn rhannu’r baich a chynnal y fflam.
Gweithgor Addoli
Cydlynydd: Y Gweinidog
Nod
Cadw gorolwg ar drefn, cynnwys, a chyfeiriad gweithgareddau addoli’r Eglwys
Meysydd
Calendr gwasanaethau'r capel
- Y Gweinidog
- Pregethwyr gwadd
- Gwasanaethau penodol
- Gwasanaethau ardal
- Gwasanaethau allanol
- Trefniadau blodau
Yr Ysgol Sul
- Arweiniad
- Athrawon
- Achlysuron penodol
CAIB
- Arweiniad
- Rhaglen weithgaredd
- Trefniadau gofalu a diogelwch
Cerddoriaeth
- Trefn canu’r organ a’r piano
- Trefn ledio emyn y plant
Gweithgor Cristnogaeth Ymarferol
Cydlynydd: Marian Evans
Nod
Hyrwyddo gweithgaredd elusengar a chymdeithasol yr Eglwys gan gryfhau’r ymrwymiad i gyfrannu ac i berthyn
Meysydd
Gweithgareddau elusengar
- Trefn aelodau’n ymweld â chleifion a henoed yr Eglwys
- Rota paratoi te yn y Tabernacl
- Elusen y flwyddyn
- Cymorth Cristnogol
- Ymgyrchoedd codi arian eraill
- Cefnogi gwaith elusennau yn ymarferol
Gweithgareddau cymdeithasol a chodi arian
- Ar gyfer yr aelodau: ym Methlehem
- Ar gyfer yr aelodau: yn allanol
- Gweithgareddau agored i bawb: ym Methlehem
- Gweithgareddau gydag Eglwysi eraill
- Achlysuron anffurfiol yn ardaloedd Bethlehem
Gweithgor yr Adeiladau
Cydlynydd: Wyn Jones
Nod
Gofalu am gyflwr a diddosrwydd yr adeiladau, a threfniadau eu cynnal a’u defnyddio.
Meysydd
- Cyflwr allanol yr adeiladau, y tir a’r ffiniau
- Cyflwr mewnol ac addurno
- Mynediad
- Diogelwch
- Gwresogi
- Goleuo
- Gwasanaethau: nwy, trydan, dŵr, carthffosiaeth
- Trefniadau glanhau
- Trefniadau llogi’r adeiladau